Dr Huw Dunstall

huw-dunstall

Ac yntau bellach yn aelod cymwys llawn o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, ymgymerodd Huw Dunstall â gradd bum mlynedd o hyd ym Mhrifysgol Caerdydd. Yna aeth ymlaen i gwblhau ei hyfforddiant sylfaen a hyfforddiant seiciatryddol yn Ne Cymru. Mae e’n dwlu gwneud gwahaniaeth i fywydau’i gleifion, ac mae cyfoeth o
ddewisiadau ganddo o ran sut i dreulio’i amser hamdden. Dyma fe i esbonio:

“Ers fy niwrnod cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd, fe wnes i fwynhau fy astudiaethau a bywyd myfyriwr yn llwyr. Wedi hynny, fe arhosais yng Nghymru i wneud fy hyfforddiant sylfaen, ac yna dewisais ganolbwyntio ar seiciatreg. Fe wnes i gwblhau hyfforddiant arbenigol ym Myrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf.

“Fy hoff ran o’r hyfforddiant hwn oedd y chwe mis a dreuliais yn ymwneud â seiciatreg anableddau deallusol. I mi, roedd y dull holistig, amlddisgyblaethol, sy’n anolbwyntio’n fawr iawn ar fanylion, yn arbennig o werthfawr. Y peth gorau oedd y cleifion. Bydden nhw’n peri i mi wenu bob tro.

“Mae’r gefnogaeth a ges i wedi bod yn rhagorol. A dweud y gwir, fe faswn i’n dweud mai cael cefnogwyr hŷn yw un o’r manteision mwyaf o hyfforddi mewn seiciatreg. Mae ymgynghorwyr yn ymarferol iawn ac yn eich goruchwylio ac yn darparu adborth yn rheolaidd ar eich cynnydd. Maen nhw’n rhoi pwyslais go iawn ar eich hyfforddiant, sy’n golygu eich bod chi’n cael llawer iawn o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau y tu allan i faes seiciatreg – fel ymchwil, dysgu, rheoli ac arwain.

“Ar ôl cwblhau fy arholiadau i ddod yn aelod o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yn ddiweddar, fy mwriad nawr yw cwblhau cymhwyster ôl-radd mewn Rheoli ac Arwain. Ochr yn ochr â’m gwaith clinigol, rydw i’n frwd o blaid hybu seiciatreg fel gyrfa sy’n rhoi boddhad, ac rydw i wedi ymroi i helpu datblygu seiciatryddion y dyfodol.

“Y peth gorau i mi am fod yn seiciatrydd yw cael y cyfle i newid bywydau er gwell. Mae’n fraint gallu gweithio mewn partneriaethau gyda chleifion, eu gofalwyr a’u teuluoedd, i’w helpu i fyw bywydau mwy llawn a gweithredol.

“Byw yng Nghymru yw’r geiriosen ar ben y gacen. A minnau wedi lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dim ond hanner awr i ffwrdd y mae Caerdydd, neu gefn gwlad a thraethau godidog. Ond y peth gorau oll yw’r bobl, Mae’r Cymry mor garedig a chroesawgar. Mae’r cymunedau clos sydd ffordd yma’n rhywbeth hollol unigryw.”