Richard Desir

Richard Desir

Trawsnewid y Gweithlu Nyrsio yng Nghymru.

Mae Richard Desir yn Uwch-nyrs Trawsnewid y Gweithlu o Gaerdydd. Ac yntau’n dod yn wreiddiol o Fanceinion, symudodd i dde Cymru i fyw gyda’i wraig a’i deulu yn 2007, ac i barhau â’i yrfa, a arweiniodd at dwf mawr yn ei yrfa, a bywyd cytbwys iawn. Dyma fe i esbonio: 

 

“Cefais fy ngeni a’m magu ym Manceinion, a chymhwysais fel Nyrs Gofrestredig yn 1989. Rwyf wedi gweithio mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd clinigol gan gynnwys wardiau meddygol ac adferol i gleifion mewn ysbytai; gofal cardio-thorasig, yr adran frys a Chanolfannau Cerdded i Mewn y GIG yng ngogledd Lloegr.

“Cwrddais â’m gwraig, sy’n Gymraes ac sydd hefyd yn Nyrs Gofrestredig, yn Lloger, ond roedd hi eisiau magu teulu yng Nghymru, felly teimlai’n hollol naturiol i ni adleoli’n ôl i’w dinas frodorol hi, sef Caerdydd. Sylweddolais yn gyflym iawn mor hyblyg yw Cymru o ran gyrfa ac arddull bywyd; mae popeth fyddai unrhyw un yn ei ddymuno – o dirweddau hardd i drefi dinesig – o fewn awr o daith yn y car.

“Oherwydd symud i dde Cymru, cefais gyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd, felly dechreuais weithio fel uwch-nyrs yn y Gwasanaethau Gofal Canolraddol yn Abertawe; fe wnes i weithio ym Mhowys fel Nyrs arweiniol mewn amgylchedd nyrsio cymunedol gwledig, ac rwyf wedi treulio’r 5 mlynedd ddiwethaf yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB).

“Yn fwy diweddar, rwyf wedi gweithio fel uwch-nyrs trawsnewid y gweithlu, gan weithio ochr yn ochr â’r tîm mwyaf rhagorol o fewn i Raglen Dyfodol Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB), sy’n amlinellu ein strategaeth o ddarparu gofal yn agos at y cartref; creu rhwydwaith o ysbytai lleol sy’n darparu gwasanaethau gofal i gleifion yn yr ysbyty, gwasanaethau diagnostig a thriniaethol beunyddiol, ac yn olaf, canoli gwasanaethau gofal arbenigol a chritigol mewn Canolfan Ofal Arbenigol a Chritigol a adeiladwyd i’r pwrpas. Ar hyn o bryd dyma’r rhaglen drawsnewid fwyaf yn y GIG yng Nghymru. Mae’r tîm yn arloesol a chreadigol; yn gefnogol, ac mae’r amgylchedd cyfeillgar yn ail i ddim yma. 

“Mae fy rôl bresennol fel uwch-nyrs trawsnewid y gweithlu o fewn i’r Rhaglen Dyfodol Clinigol yn cynnwys cefnogi arwain, cynllunio a chyflwyno’r gweithlu nyrsio ar gyfer y dyfodol y bydd eu hangen ar gyfer y rhwydwaith o ysbytai lleol, y Ganolfan Gofal Critigol a datblygu rolau cefnogi oddi mewn i leoliadau cynradd a chymunedol. Prif bwrpas fy rôl felly yw adnabod dulliau newydd o ddarparu gofal a gwella profiad y claf.

“Ar yr un pryd, rwyf wedi ysgwyddo rôl amlwg yn Rhaglenni Staffio Nyrsys Cymru Gyfan; sef Arweinydd Gweithredol Gweithlu Nyrs Ardal Cymru Gyfan ar gyfer y rhaglen staffio nyrsys. Fy rôl oedd arwain y gwaith o ddatblygu offeryn llwyth gwaith a gweithlu yn seiliedig ar dystiolaeth, oedd yn gyson â Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016. 

“O ran datblygiad personol, rwyf wedi elwa o fynychu sawl cwrs hyfforddi ychwanegol yng Nghymru, gan gynnwys derbyn cefnogaeth wrth ymgymryd â’r Dystysgrif Ôl-radd mewn Cynllunio Gweithlu Strategol a roddodd gyfle i mi ddatblygu achos busnes dros ddatblygu a gweithredu’r gwasanaeth nyrsio ardal 24-awr yn ABUHB. 

“Rwyf hefyd wedi ennill ambell wobr yn ystod fy ngyrfa yng Nghymru – gan gynnwys dod yn ail ar gyfer ‘Nyrs Gymunedol y Flwyddyn’ y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2015 ar gyfer datblygu llwybrau a phrosesau sy’n gwella profiad pobl hŷn rhwng cael eu gollwng o ofal ysbyty i fynd i gartref nyrsio neu leoliad gofal preswyl.

“Mae byw yng Nghymru’n wych o safbwynt gyrfa a theulu. Mae Caerdydd yn ddinas mor fywiog, sydd mor amrywiol a chynhwysol, ac mae’r cydbwysedd rhwng y gwledig a’r trefol yn ardderchog, o ran gwaith a hamdden. Fel tad hefyd, rwyf wedi gallu gweld drosof fy hun y cyfleoedd rhagorol sydd ar gael i bobl ifanc yma hefyd.

“Y tu fas i’r gwaith, rwy’n hyfforddwr pêl-droed Dan-13, ac rwyf wedi ymwneud â phêl-droed llawr gwlad yng Nghymru ers dros 8 mlynedd. Dyma rywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud, yn ogystal â gallu rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned ble rydw i’n byw. I bobl sy’n chwilio am rywbeth newydd, dewch i weld beth sydd gan Gymru i’w gynnig – rwy’n addo na fyddwch chi’n difaru!”