Christine Grand

Christine Grand

Mae Christine Grand (35) yn fydwraig gofrestredig sy’n gweithio mewn ward esgor mewn ysbyty yng Nghasnewydd, De Cymru. 

Cyfunodd Christine ei brwdfrydedd am hawliau menywod â’i dymuniad i weithio mewn proffesiwn gofal i fod yn fydwraig. A hithau wedi'i magu yn Stoke-on-Trent, symudodd Christine yn wreiddiol i Gymru i ofalu am ei mam, ond dyma’r peth gorau y gallai hi fod wedi'i wneud i’w gyrfa a’i theulu. 

“Pan oeddwn yn feichiog gyda’m plentyn cyntaf fe welais i â’m llygaid fy hun yr effaith y gall bydwraig ei chael ar ddarpar fam a’i theulu, roedd amrywiaeth sylweddol rhwng y mathau o ofal a gefais – cefais rai bydwragedd anhygoel, a rhai eraill a wnaeth yr holl broses yn anodd. Dyna pam roeddwn i eisiau bod yn fydwraig - mae merched yn teimlo fwyaf bregus yn ystod beichiogrwydd ac maen nhw’n haeddu’r gofal gorau posibl. Roedd bod yn fydwraig hefyd yn cyfuno dau o’m diddordebau; hawliau menywod a’r proffesiwn gofal. 

“Dychwelais i’r coleg pan oeddwn i’n 28 oed i astudio cwrs mynediad i brifysgol am 2 flynedd. Roedd yn rhaid i mi wneud hyn oherwydd nad oedd gen i’r cymwysterau academaidd i fynd i’r brifysgol. Roeddwn i’n feichiog am ran ohono felly roedd yn gryn her. Ar ôl hynny, fe wnes i gais i astudio bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr (UWE). Doeddwn i ddim yn llwyddiannus y tro cyntaf, felly fe wnes i gwrs cwnsela am flwyddyn, sydd wedi ychwanegu at y sgiliau sydd gennyf ac mae wedi gwella fy ngallu fel bydwraig. Roedd wedi fy helpu i ddeall yn well sut i siarad â menywod a theuluoedd i gael y gorau ohonynt a sicrhau bod eu profiad yn yr ysbyty y gorau y gall fod. 

“Symudais i Gymru yn 2006 i helpu i ofalu am fy mam. Fe ddigwyddodd hyn i gyd yn sydyn iawn, penderfynodd fy nheulu a minnau hel ein pac a mynd, a dyna ddigwyddodd. Roedd yn deimlad ofnus, ond roedd yn rhywbeth roedd yn rhaid i ni ei wneud ar y pryd, ac roeddem wedi gweithio gyda’n gilydd fel teulu i sefydlu ein bywyd newydd yng Nghymru.

“Fe ddechreuais weithio yng Nghasnewydd yn 2017, ac ar unwaith fe welais wahaniaeth mawr rhyngddo a’m hysbyty hyfforddi ym Mryste. Cefais fy hyfforddi mewn ysbyty eithriadol, ond roedd hierarchaeth sefydledig a doeddwn i ddim yn teimlo fy mod yn gallu camu y tu allan ‘i’m lle’. O’r hyn rwyf wedi'i weld yng Nghymru, mae pawb yn cael ei drin yn gyfartal, waeth beth fo graddfa eu swydd, ac mae cyfle iddynt ddatblygu a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Rwy’n teimlo mod i’n cael cefnogaeth ar lefel bersonol a phroffesiynol yng Nghymru. Yn yr ysbyty lle rwyf i’n gweithio ar hyn o bryd, anogir trafodaethau ynghylch dulliau trin a gofal i gleifion. Rydym yn edrych ar dystiolaeth ar gyfer y dulliau a awgrymir ac yn ystyried beth fyddai orau ar gyfer y sefyllfa o’n blaenau. Mae hefyd yn gwella cyfathrebu rhyngom ni, y merched a’r teuluoedd - gan ein bod yn hyderus ynghylch y dull o ofalu a fwriedir. 

“Gall fod yn hawdd derbyn y bydd aelod uwch o’r tîm yn gwybod mwy na chi, ond dydy hynny ddim bob amser yn wir mewn gofal sy’n canolbwyntio ar fenywod. Rydym ni wedi cael hyfforddiant arbenigol, ac yn bwysicach fyth, mae’n siŵr ein bod ni’n adnabod y darpar fam yn well. Os ydych chi’n teimlo’n gryf dros rywbeth, mae’n rhaid i chi gymryd rhan yn y drafodaeth - rwy’n credu mai dyna fu’r her fwyaf i mi yn broffesiynol, dod o hyd i’m llais. Mae gweithio yng Nghymru wedi bod yn help i mi yn hyn o beth, am ein bod ni’n cael ein hannog i siarad, a gofyn pan nad ydym yn siŵr - does dim ffasiwn beth â sylw neu gwestiwn twp. Os ydych chi’n teimlo y bydd yn helpu’r ddarpar fam, yna rydych chi’n gwneud eich gwaith. 

“Fy nghyflawniad mwyaf yn fy ngyrfa yw cael ymuno â’r cynllun hyfforddi mentoriaeth yng Nghymru. Rwy’n cael cyfrannu at hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o fydwragedd a throsglwyddo’r hyn rwyf wedi'i ddysgu yn fy ngyrfa. Rwyf wrth fy modd yn gweld y bydwragedd ifanc yn ffynnu yn ystod eu cyfnod byr gyda mi, ac mae hefyd yn fy atgoffa o’r hyn rwyf wedi ei gyflawni. Mae un fydwraig dan hyfforddiant yn dod i’r meddwl… Roedd hi’n dawel iawn ac yn ei chael hi’n anodd meithrin perthnasoedd â'r menywod, rhywbeth sy’n bwysig iawn yn ein swydd. Roeddem ar ganol shifft anodd a phrysur, gyda llawer o achosion cymhleth. Roeddwn i’n gwbl hyderus yn fy mentorai ac yn gall ei gadael am gyfnodau gyda’r fenyw roedd hi’n gofalu amdani, tra roeddwn i’n helpu fy nghydweithwyr. Pan wnes i ddychwelyd, roedd hi wedi meithrin perthynas wych gyda’r fenyw a’i theulu ac roedd wedi’i chefnogi drwy ei chyfnod esgor. Rwy’n dal yn falch iawn ohoni.

“Roedd symud i Gymru yn benderfyniad a gafodd ei wneud yn ystod cyfnod caled - tra bo fy mam yn sâl - ond dyma’r penderfyniad gorau a wnes i a fuaswn i byth yn ei newid. Fel pobl, mae’n bwysig ein bod ni’n mynd i fyd natur er lles ein hiechyd meddwl a chorfforol, ac mae’n hawdd iawn dod o hyd i gyfleoedd i fentro allan i’r awyr agored yng Nghymru. Rwy’n mwynhau gweithio yn fy rhandir, sydd y tu ôl i’m tŷ, ac rwy’n manteisio ar bob cyfle i dreulio amser ynddo – yn enwedig ar ôl diwrnod llawn straen.

“Mae Cymru wedi bod yn hynod groesawgar, mae llai o wahaniaeth rhwng dosbarthiadau cymdeithasol ac am ei bod yn wlad fach mae’n fwy cynhwysol ac amrywiol na’r hyn a welais yn Lloegr. Mae ansawdd bywyd fy mhlant yn wych yma, maen nhw’n cael addysg dda ac rydym yn treulio amser da gyda’n gilydd. Erbyn hyn, mae gen i fywyd rwy’n falch ohono, a dydw i ddim yn siŵr a fyddai hynny wedi digwydd oni bai fyd mod wedi symud i Gymru.”