Yr Athro Bharat Jasani

bharat-jasani

Symudodd yr Athro Bharat Jasani a anwyd yn Nairobi, i Gymru gyntaf yn 1977, I fod yn batholegydd a gwneud ei ymchwil feddygol gyntaf a magu’i deulu. Mae ei yrfa lachar hyd yn hyn yn dyst i’r cyfleoedd o’r radd flaenaf a gynigir gan Gymru, ar flaen y gad ym maes ymchwil feddygol flaengar. Dyma fe i esbonio:

“Ar ôl i mi gwblhau fy hyfforddiant meddygol a’m PhD ym Mhrifysgolion Glasgow a Birmingham yn eu tro, fe symudais i Gaerdydd gynaf yn 1977 er mwyn derbyn swydd darlithydd clinigol yng Ngholeg Meddygol Cenedlaethol Cymru. Erbyn 2011, nid yn unig yr oeddwn wedi llwyddo i dderbyn Cadair a swydd Pennaeth Adran Batholeg Prifysgol Caerdydd, ond rwyf hefyd wedi cyflawni fy ngwaith fel gŵr teyrngar a thad i ddwy o ferched, yn ein cartref ym Mhenarth, diolch i gydbwysedd rhagorol rhwng gwaith a bywyd.

“Bydd pobl yn diystyru Cymru’n aml fel dewis cyntaf o ran dod i hyfforddi, gweithio a byw yma, ar draul dinasoedd mewn ardaloedd eraill o Brydain. Mae llawer yn cymryd yn ganiataol – ar gam – nad yw Cymru ar flaen y gad o ran menter ac ymchwil feddygol. Serch hynny, mae gan Gymru botensial enfawr ym maes ymchwil  ryngwladol, sy’n cael ei ariannu a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac elusennau amlwg fel Ymchwil Canser Cymru, sydd wedi galluogi fy mhrosiectau ymchwil canser a’r darganfyddiadau clinigol ar hyd y blynyddoedd.

“Ymysg y darganfyddiadau yr oedd bod yn gyntaf yng Nghymru i sefydlu llwybrau meddyginiaeth bersonol ym maes gofal canser, yn seiliedig ar fiofarcio, ar y cyd â’r Athro Syr DillwynWilliams. Dyna lwyddiant a ddyfarnodd i mi, maes o law, wobr Cymrodoriaeth Deithiol Becton Dickinson, y gyntaf o’i math, yn ogystal â derbyn £70,000 mewn cyllid grant oddi wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer dal ati yn y maes hwn gyda fy ngwaith. Mae’r cyllid hwn wedi fy ngalluogi yn ei dro i arloesi ym maes darganfod tiwmorau’n gynnar a monitro’u tyfiant yn gysylltiedig ag oestrogen a derbynwyr HER2 mewn cancr y fron, a dod yn Batholegydd Ymgynghorol cyntaf Cymru i sefydlu gwasanaeth diagnostig rheolaidd ar gyfer y 1200 i 1600 achos newydd o ganser y fron yng Nghymru bob blwyddyn.

“Mae gweithio yng Nghymru hefyd wedi rhoi’r cyfle i mi hyfforddi a mentora nifer o fyfyrwyr meddygol dawnus a meddygon iau yng Nghaerdydd, a meithrin eu gyrfaoedd mewn ymchwil glinigol a gydnabyddir yn rhyngwladol. Er enghraifft, mae Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd bellach ymhlith haen uchaf y DU, ynghyd â Choleg Prifysgol Llundain, a Phrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Manceinion, Leeds a Glasgow, ar gyfer ymchwil yn seiliedig ar fiofarcio cancr. Mae rhan orau llwyddiannau fy ngyrfa feddygol yn ddyledus i Gymru, gwlad sydd wir wedi dod yn ail gartref i mi ymhob ystyr.”