Dr Dave Wilson

Ac yntau wedi’i eni a’i fagu yn Llundain, symudodd Dr Dave Wilson ei deulu i Seland Newydd gyntaf, ar drywydd cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, cyn ymgartrefu yn sir Benfro, gorllewin Cymru yn 2010. Bellach mae’n feddyg teulu amser llawn yng Ngrŵp Meddygol Argyle yn Noc Penfro, a dyma fe i esbonio:

“Fe ddois i gyntaf i orllewin Cymru ar drywydd fy nghariad, oedd yn dod o’r ardal, ar ôl i fi raddio yn Llundain, er mwyn cwblhau dwy flynedd o hyfforddiant fel meddyg iau yn 2005 – ac i’w phriodi hi! Bedair blynedd yn ddiweddarach, cawsom ein denu i Tauraunga yn Seland Newydd, gyda’r bwriad o ymgartrefu yno a magu teulu. Roedd yn teimlo fel dewis cywir ar y pryd. Roedden ni’n ifanc, doedd dim plant gyda ni ac roedd hi yr un mor hawdd rhagweld cyfleoedd gyrfaol da I feddygon teulu yno ag oedd hi gartref. Ond ar ôl prin 18 mis yn Seland Newydd, fe ddaeth hi’n amlwg i ni gymaint yr oeddem ni’n gweld eisiau’r bywyd mewn cymuned agos ger y môr ’nôl yng ngorllewin Cymru. A ninnau wedi penderfynu, fe wnes i gais am swydd meddyg teulu yn ôl yng ngorllewin Cymru ac fe wnes i dderbyn cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, hyd yn oed, er mwyn adleoli. Roedd hi’n rhyfeddol o hawdd symud, a phum mlynedd yn ddiweddarach dydyn ni ddim yn difaru dim.

“Mae fy ngwraig a mi’n byw mewn pentref bach ger Carew yn sir Benfro, ac erbyn hyn mae dau o blant bach gyda ni. Mae sir Benfro’n ddelfrydol ar gyfer magu teulu a chyflawni gyrfa feddygol sy’n boddhau. Mae’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn anhygoel yma, Mae fy mywyd gwaith fel meddyg teulu’n canolbwyntio’n gryf ar y gymuned. Mae’r cleifion yn debycach i deulu estynedig – mae ’na ymdeimlad gwirioneddol a chyfeillgar yma. Roedd gweithio yng Nghymru – man geni’r Gwasanaeth Iechyd, hefyd yn cynnig manteision o ran cydweithio llawer agosach rhwng meddygon proffesiynol a’r bobl sy’n gwneud y penderfyniadau gwleidyddol. Mae penderfyniadau polisïau iechyd wedi’u datganoli a chefnogir meddygon teulu’n dda gan Lywodraeth Cymru, o ran gwneud y gorau o gydbwysedd rhwng gwaith a byw ac o ran lleisio barn ar faterion meddygol. Mae meddygon teulu yng Nghymru hefyd yn derbyn cefnogaeth ariannol drwy gyfrwng cytundeb Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol, sy’n ein helpu ni i wneud gwahaniaeth go iawn drwy gyfrannu at strategaethau gweithluoedd lleol, cefnogi dull mwy cynhwysol o ddarparu gwasanaethau cymunedol a gwella ansawdd cyffredinol y gofal a roddir ac a dderbynnir. I grynhoi, yr hyn sy’n wych am fod yn feddyg teulu yng Nghymru yw ein bod ni wedi ein grymuso er mwyn gwneud gwahaniaeth go iawn i’r cymunedau ble rydym ni’n gwasanaethu.

“Pan na fydda i’n gweithio, mi fydda i’n gwneud defnydd llawn o’r harddwch naturiol sydd o’m cwmpas yng Nghymru, drwy gystadlu’n rheolaidd mewn triathlons yn ogystal â’r ras Ironman Cymru flynyddol, a gynhelir ar garreg y drws. Dwi hefyd yn syrffiwr brwd, ac mae’n fwriad llwyr gen i fynd yn ôl i’r môr pan fydd y plant yn ddigon hen i ddysgu. A minnau wedi fy ngeni a’m magu yn Llundain, efallai y byddai rhai’n holi pam y baswn i eisiau cyfnewid goleuadau llachar y ddinas am fodolaeth mor wledig ond pan ddaw hi’n amser agor llond pecyn o frechdanau o flaen golygfa o’r arfordir, o’i gymharu â thaith adref mewn llond trên o gymudwyr – does dim dewis.”