Trwy hyfforddi yng Nghymru, gallwch fanteisio ar lawer o gyfleoedd gyrfaol cyffrous gyda chefnogaeth cydweithwyr profiadol ar bob cam o’ch datblygiad.
Trwy ymarfer yng Nghymru, gallwch fanteisio ar ein cyfleusterau addysg a hyfforddiant ardderchog.
Gyrfaoedd Nyrsio a Bydwreigiaeth yng Nghymru
Pan sefydlodd Aneurin Bevan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn 1948, gwnaeth hynny ar egwyddorion cydraddoldeb ac ar wasanaeth sy’n seiliedig ar angen, nid ar y gallu i dalu amdano.
Trwy ddatblygu eich gyrfa nyrsio yng Nghymru, gallwch hyrwyddo’r traddodiadau hyn a helpu i ddylanwadu ar ddyfodol y proffesiwn.
Mae Cymru wedi lansio ei gweledigaeth pum mlynedd ar gyfer y dyfodol – Gofal Mamolaeth yng Nghymru. Mae’r ddogfen hon yn cefnogi bydwragedd i ddarparu gofal o ansawdd a phrofiadau sy’n canolbwyntio ar deuluoedd, gan weithio a hyfforddi yn aml-broffesiynol i ddatblygu gwasanaethau diogel ac effeithiol.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn Ewrop i gyflwyno deddfwriaeth sy’n diogelu lefelau staffio nyrsio – gan sicrhau y bydd gan nyrsys yr amser i ofalu’n sensitif am gleifion.
Mae disgwyl i’r holl unedau mamolaeth yng Nghymru gydymffurfio â system ‘Birth-rate plus’ – sy’n sicrhau bod y nifer gywir o fydwragedd ar gael i’r menywod sy’n derbyn gofal.
Mae gyrfa yng Nghymru yn cynnig posibiliadau di-ben-draw.
Gall nyrsys gamu ymlaen i rolau nyrsys clinigol arbenigol, gweithio fel uwch ymarferwyr nyrsio a nyrsys ymgynghorol.
Gall bydwragedd gamu ymlaen i rolau bydwraig arbenigol, ymgynghorydd a Phenaethiaid Bydwreigiaeth.
Gallwch hefyd ddilyn llwybrau i fod yn arweinydd, yn amrywio o arwain ward neu dîm i uwch swyddi.
Trwy weithio yng Nghymru, gallwch fanteisio ar amrywiaeth o drefniadau gweithio newydd i’ch helpu i drefnu eich gwaith o gwmpas eich bywyd.
Mae’r rhain yn cynnwys oriau gweithio hyblyg, cynlluniau talebau gofal plant, mentrau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a chyfleusterau gofal plant ar y safle.
Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru gynllun gwobrwyo i gydnabod nyrsys sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i gynnal a gwella gwasanaethau. Mae Cynhadledd y Prif Swyddog Nyrsio, Gwobrau GIG Cymru a Gwobrau Nyrs y Flwyddyn Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru yn gyfle i chi gael eich cydnabod am eich ymroddiad a’ch arloesedd.
Os ydych chi am ddod i Gymru i weithio o wlad arall, gall ein byrddau a’n hymddiriedolaethau iechyd gynnig amrywiaeth o becynnau adleoli i’ch helpu chi a’ch teulu i ymgartrefu’n hwylus.
Rydym ni’n croesawu nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd sydd am ddychwelyd i’r proffesiwn.
Mae bwrsariaeth o £1,000 ar gael i nyrsys, ymwelwyr iechyd a nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol, sy’n hyfforddi yng Nghymru.
Mae bwrsariaeth o £1,500 ar gael i fydwragedd sy’n dilyn cwrs dychwelyd i ymarfer yng Nghymru.
Byddwch yn cael cydnabyddiaeth o fewn 2 ddiwrnod gwaith. Rydym yn ceisio ymateb i ymholiadau o fewn 2 diwrnod gwaith.